Ganwyd 21 Mai 1820, yn fab hynaf Thomas Lloyd, Bronwydd, Sir Aberteifi (siryf sir Aberteifi, 1814), a'i wraig Anne Davies, merch John Thomas, Llwydcoed a Lletymawr, Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei addysg yn ysgol Harrow ac yn Christ Church, Rhydychen. Priododd, Rhagfyr 1846, Henrietta Mary, merch George Reid, Bunker's Hill, Jamaica, a Watlington, swydd Rhydychen, a Louisa, merch Syr Charles Oakeley, barwnig. Yn 1840 ymunodd â'r ' 13th Light Dragoons '; wedi hynny bu'n gwasanaethu yn Canada gyda'r ' 82nd Foot ' - ac yn bennaeth ar adran o'r fyddin yn Ottawa. Cafodd ei ddewis yn ddirprwy-raglaw siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin yn 1847, bu'n siryf Sir Aberteifi yn 1851, a gwnaethpwyd ef yn farwnig ym mis Ionawr 1863. Bu Syr Thomas yn aelod seneddol (Rhyddfrydwr) dros sir Aberteifi, 1868-74. Bu farw yn Llundain ar 21 Gorffennaf 1877. Yn rhinwedd y ffaith ei fod yn hawlio bod yn 23ain arglwydd Cemais yn Sir Benfro, a hynny mewn llinell ddidor, byddai'n arfer, bob blwyddyn, ddewis maer Trefdraeth, Sir Benfro, o dan ei awdurdod a'i sêl ei hun.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.