Ganed yn Cwm Bychan, plwyf Llanbedr, Sir Feirionnydd. Braidd yn annelwig yw manylion ei yrfa; o'r cofiant iddo gan ei gyfaill John Drummond y ceir hwynt gan mwyaf. Pleidiai achos y Jacobitiaid ac aeth i Ffrainc gan obeithio cael comisiwn ym myddin y wlad honno, eithr gan iddo fethu daeth yn frawd lleyg yn un o'r urddau crefyddol a bu'n rhoi addysg mewn pynciau milwrol i swyddogion yr ' Irish Brigade.' Yr oedd yn bresennol yn Fontenoy (1745). Cymerodd ran yng ngwrthryfel y Jacobitiaid, 1745; ei ran yn hwnnw oedd gwasnaethu fel swyddog cudd gyda gorchymyn i gadw mewn cyswllt â gwyr o Gymru yr oedd iddynt gydymdeimlad ag achos y Stewartiaid. Dywed iddo gael ei gymryd i'r ddalfa yn 1746. Wedi i hynny ddigwydd iddo, bu'n gwasnaethu ym myddin Ffrainc a chafodd ei anfon i Loegr i baratoi adroddiad ar bosibilrwydd glanio ar arfordir deheuol Prydain. Bu'n gwasnaethu hefyd ym myddinoedd Prussia, Austria, a Russia, a chyrhaeddodd radd major-general. Ymddengys iddo, tua diwedd ei oes, ddyfod i ddealltwriaeth â Llywodraeth Prydain a roes bensiwn iddo. Bu farw yn Belgium yn 1783.
Gwaith llenyddol pwysicaf Lloyd oedd The History of the late War in Germany between the King of Prussia and the Empress of Germany and her Allies (dwy gyfrol, a gwahanol argraffiadau a chyfieithiadau); yn y gwaith hwn ceir myfyrdodau ac ystyriaethau'r awdur ar gelfyddyd milwrio, adran a fu'n fawr ei dylanwad ar Napoleon Bonaparte ac arweinwyr milwrol eraill ac a ddug enwogrwydd i'r awdur mewn gwahanol wledydd ar gyfandir Ewrop. Cyhoeddodd hefyd Political and Military Rhapsody on the Defence of Great Britain; y mae'r argraffiad cyntaf, 1779, yn brin, eithr cafwyd amryw adargraffiadau wedi hynny.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.