brodor o sir Aberteifi. Aeth i Goleg Oriel, Rhydychen, fel ' servitor,' 1607 (B.A. 1611, M.A. 1614, a dyfod yn gymrawd o Goleg Iesu yn 1614). Cafodd fywoliaeth S. Andrews, Dinas Powys, yn 1617, ac un S. Nicholas, 1626 - y ddwy yn Sir Forgannwg. Cymerth ei B.D. yn 1624 a'i D.D. yn 1638. Gwnaethpwyd ef yn rheithor (segur) Dinbych, 1637, yn rheithor Hirnant, Sir Drefaldwyn, 1638, ac yn ganon ac archddiacon Tyddewi, 1644.
Yn ystod y Rhyfel Cartrefol yr oedd, fel ei dad, yn Frenhinwr yr oedd plaid y Senedd yn cadw eu llygaid arno. Cymerwyd ei fywiolaethau oddi arno cyn Deddf y Taenu oherwydd ei fod yn eu dal 'in plurality' ac am iddo wrthod cymryd y 'cyfamod,' eithr caniatawyd iddo gael derbyn y 'bumed' ('fifths') am beth amser. Ym mis Mai 1648 fe'i cymerwyd yn garcharor gan y cyrnol Horton wedi brwydr Sain Ffagan, a bu yng ngharchar yng Nghaerloyw oblegid ei annheyrngarwch i'r Senedd. Ar 9 Chwefror 1651 gorchmynnwyd ei gymryd i'r ddalfa, a'r flwyddyn ddilynol bu raid iddo fforffedio, oherwydd teyrnfradwriaeth, stad fechan a oedd ganddo, trwy ei wraig, yn Eye, sir Henffordd. Ymladdodd yn erbyn hyn gan lwyddo yn y diwedd. Bu'r achos o flaen Cyngor y Wladwriaeth a'i trosglwyddodd i bwyllgor sir Forgannwg ('the Glamorgan Committee'); bu'r achos hefyd yn cael ei drin yn Goldsmiths' Hall, a chan gomisiynwr sir Henffordd; ar 31 Mai 1652 cafwyd dyfarniad gan y Cyfrin Gyngor yn gorchymyn rhoddi'r eiddo yn ôl iddo. Yn 1654 yr oedd yn dal rhyw swydd eglwysig yn Fordham, sir Gaergrawnt.
Wedi'r Adferiad etholwyd Lloyd yn esgob Llandaf, 17 Hydref 1660, a chafodd ei swydd fel archddiacon Tyddewi yn ei hôl, ynghyd â'i fywiolaethau yn siroedd Morgannwg a Threfaldwyn; gwnaethpwyd ef hefyd yn rheithor Llangatwg, sir Frycheiniog, a chafodd sedd prebend Caerau yn eglwys gadeiriol Llandaf. Yr oedd ganddo gryn ddiddordeb yng ngwaith ei esgobaeth, ac yr oedd yn egnïol o blaid sefydlu 'ysgolion rhad'; ysgrifennodd Articles of Visitation and Enquiry concerning matters ecclesiastical a A Letter to the Clergy for support of the Free Schools, gan ddisgrifio Sir Forgannwg yn y Letter yn ' utterly destitute of schools.' Bu farw 7 Mehefin 1667 a'i gladdu yn eglwys gadeiriol Llandaf.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.