Ganwyd yn y Fron, Llanarth, Sir Aberteifi, 23 Tachwedd 1843, mab John Lloyd. Tua 16 oed aeth i ysgol ramadeg Llanbedr-pont-Steffan, ac yn 1864 enillodd ysgoloriaeth yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Graddiodd yn B.A. yn 1867 â chlod yn yr ail ddosbarth yn y clasuron, a chymryd ei M.A. yn 1871. Urddwyd ef yn ddiacon yn 1867 ac yn offeiriad yn 1869. Bu'n gurad Dolgellau ac yn brifathro'r ysgol ramadeg yno o 1867 hyd 1872; yna aeth yn brifathro 'r i Ysgol Friars ym Mangor, yn 1873, a bu yno hyd 1878, pryd y penodwyd ef yn brifathro Coleg Crist, Aberhonddu. Ym mhob un o'r ysgolion hyn gwnaeth lawer i godi safon y gwaith a nifer y disgyblion, ac i roddi bechgyn addawol ar ben y ffordd. Yn 1890 dyrchafwyd ef yn esgob Bangor, ond buan y llesteiriwyd ei weithgarwch gan afiechyd, a bu raid iddo roddi'r gorau i'w swydd yn 1899. Ymneilltuodd i'w hen gynefin, a bu farw yn y Gwynfryn, Llanarth, 4 Awst. Claddwyd ef ym mynwent Llanarth. Priododd Elizabeth Margaret, merch y Parch. D. Lewis, Trawsfynydd, a bu iddynt dair merch.
Lloyd oedd y Cymro Cymraeg cyntaf ers dwy ganrif i'w benodi'n esgob Bangor. Er iddo ddwyn allan yn ystod ei dymor yno Emyniadur yr Eglwys, a ddefnyddir hyd heddiw, ymddengys mai fel ysgolfeistr y bu fwyaf llwyddiannus.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.