Ganwyd 1570 neu 1571; brodor o Sir Drefaldwyn, ac ewythr David Lloyd, deon Llanelwy. Ymaelododd yn Rhydychen, 25 Ionawr 1588/9, a daeth yn gymrawd o Coleg All Souls. Graddiodd yn B.C.L. yn 1597, a D.C.L. yn 1602, a gwnaed ef yn ddadleuydd y ' Doctors Commons ' yn 1609.
Nid yw'n amlwg pa bryd nac ymha le y cychwynnodd ei yrfa yn yr eglwys, ond cafodd ddyrchafiad buan ynddi. Yn 1615 gwnaed ef yn rheithor Clynnog Fawr, Sir Gaernarfon, canghellor Henffordd, a chanon Windsor, ac, yn 1617, yn ddeon Henffordd. Daliodd y swydd olaf hyd ei farw yn 1625. Yr oedd yn noddwr i Goleg Iesu, Rhydychen.
Y mae'r Oliver Lloyd hwn i'w wahaniaethu oddi wrth un arall o'r un enw, sef nai iddo a brawd i'r David Lloyd a enwyd uchod. Yr oedd yr Oliver Lloyd hwnnw hefyd yn gymrawd o Goleg All Souls ac yn ddoethur yn y gyfraith, a bu farw yn 1662.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.