LLOYD, WILLIAM VALENTINE (1825 - 1896), clerigwr, ysgrifennydd y Powysland Club, golygydd y Montgomeryshire Collections

Enw: William Valentine Lloyd
Dyddiad geni: 1825
Dyddiad marw: 1896
Priod: Caroline Amelia Sophia Lloyd (née Aylmer)
Rhiant: Jane Lloyd (née Fitzgerald)
Rhiant: William Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr, ysgrifennydd y Powysland Club, golygydd y Montgomeryshire Collections
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Idwal Lewis

Ganwyd 14 Chwefror 1825 yn Llundain, mab William Lloyd a Jane Fitzgerald. Addysgwyd ef yn ysgol Amwythig a Choleg y Drindod, Dulyn. Urddwyd ef yn ddiacon yn 1850, yn offeiriad yn 1851, a'i benodi'n gurad yng nghenhadaeth Lennoxville, Canada. Penodwyd ef i ficeriaeth Marton, Sir Amwythig, yn 1856, ac yn 1858 fe'i gwnaed yn gaplan yn y llynges ac yn hyfforddwr ddwy flynedd yn ddiweddarach. Yn 1879 dewiswyd ef yn gaplan i'r llyngesydd dug Coburg. Ymddiswyddodd yn 1882 a'i benodi'n rheithor Haselbeech, ger Northampton, ac yno y bu hyd ei farw. Priododd, 1850, Caroline Amelia Sophia, unig ferch capten John Athelmer Aylmer, a bu iddynt ddwy ferch. Bu farw yn Leamington, 17 Mehefin 1896, a'i gladdu ym mynwent Chirbury. Bu'n un o gefnogwyr mwyaf selog y ' Powysland Club ' o'i gychwyn, ac yn gyd-ysgrifennydd am gyfnod. Ysgrifennai'n gyson i'r Montgomeryshire Collections, a bu'n olygydd iddo am dymor. Ei waith pwysicaf yw ' The Sheriffs of Montgomeryshire, 1541 to 1638,' a gyhoeddwyd yn 1876, sef cyfres o erthyglau a ymddangosodd gyntaf yn Collections, historical & archaeological relating to Montgomeryshire, i-ix. Ailgychwynnwyd y gyfres yn cyf. xxvii, ond oherwydd afiechyd yr awdur nid aeth ymhellach na'r flwyddyn 1676.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.