Ganwyd yn 1771, mab Robert ac Elinor Lloyd, Penmaes, Nefyn, Sir Gaernarfon. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Botwnnog, a Choleg Iesu, Rhydychen. Ordeiniwyd ef yn 1801, a thrwyddedwyd i Roscolyn, Llanfair yn Neubwll, a Llanfihangel, Môn Ymunodd yn ebrwydd â'r Methodistiaid. Bu'n byw am ysbaid yng Nghaernarfon a Nefyn; cadwai ysgol wedyn ym Mrynaerau, ger Clynnog, a symudodd i gadw ysgol yng Nghaernarfon yn 1817. Treuliodd weddill ei oes yno yn fawr ei ddylanwad ymhlith Methodistiaid y Gogledd. Nid oedd yn bregethwr mawr, ond yr oedd yn ŵr duwiol. Yr oedd yn un o'r ychydig glerigwyr o'r Eglwys Sefydledig (tri yn unig yn y Gogledd) a lynodd wrth y Methodistiaid wedi ordeiniad 1811. Bu farw 16 Ebrill 1841, a chladdwyd ym mynwent Llanbeblig.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.