LLOYD, JACOB YOUDE WILLIAM (y 'Chevalier Lloyd '; 1816 - 1887), hanesydd a hynafiaethydd

Enw: Jacob Youde William Lloyd
Ffugenw: Y 'chevalier Lloyd
Dyddiad geni: 1816
Dyddiad marw: 1887
Rhiant: Harriet Hinde (née Youde)
Rhiant: Jacob William Hinde
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Enid Pierce Roberts

mab Jacob William Hinde, Langham Hall, Essex, dirprwy-raglaw y sir honno, a'i wraig Harriet, merch a chyd-etifedd y Parch. Thomas Youde, Clochfaen, Sir Drefaldwyn, a Plasmadog. Addysgwyd ef yng Ngholeg Wadham, Rhydychen. Urddwyd ef yn ddiacon, Rhagfyr 1839, a chafodd guradiaeth Llandinam, Sir Drefaldwyn. Ymhen blwyddyn urddwyd ef yn offeiriad, ond ymddiswyddodd rywdro rhwng diwedd Hydref 1841 a Rhagfyr 1842, a throi'n Babydd. Pan etifeddodd stad ei fam, yn 1856, gwariodd lawer ohoni ar ei grefydd newydd. Yn 1868 cafodd drwydded gan y frenhines i newid ei gyfenw Hinde am Lloyd, enw hen deulu Clochfaen, ac i wisgo eu pais arfau. Ymunodd â'r ' Pontifical Zouaves ' i amddiffyn gallu tymhorol y Pab, ac yn 1870 gwnaethpwyd ef yn farchog o Urdd S. Gregori gan Pius IX. Oddeutu 1875, fodd bynnag, teimlai na allai gytuno â dogma'r Pab a gwrthododd am ysbaid y teitl ' Chevalier.' O hyn ymlaen ymddieithrodd yn raddol oddi wrth Eglwys Rufain. Dychwelodd i Glochfaen yn 1877, ac yno y treuliodd weddill ei oes. Aethai stad Plasmadog o'i ddwylo yn 1857. Ysgrifennai'n fynych i'r Archaeologia Cambrensis a'r Montgomeryshire Collections, eithr ei waith mawr oedd History of Powys Fadog, chwe chyfrol wythblyg, yn cynnwys hanes, achau, a llenyddiaeth. Bu farw yn Ynys Wyth, 14 Hydref 1887, yn ddibriod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.