LLYWELYN BRYDYDD HODDNANT (fl. c. 1300-50), bardd

Enw: Llywelyn Brydydd Hoddnant
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Cysylltai ' Iolo Morganwg ' ef â Morgannwg, ond gan fod nentydd yn dwyn yr enw Hoddnant yn sir Faesyfed a Sir Benfro yn ogystal ag yn ymyl Llanilltud Fawr, nid oes unrhyw sicrwydd am gartref y bardd. Cadwyd dwy awdl o'i waith yn llawysgrif Hendregadredd a rhai llawysgrifau eraill, a'r ddwy ohonynt wedi eu cyfansoddi i Ieuan ap Gruffudd Foel o Ddyffryn Aeron yn Sir Aberteifi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.