LOUGHER, ROBERT (bu farw 1585?), gŵr o'r gyfraith sifil, a gweinydd eglwysig

Enw: Robert Lougher
Dyddiad marw: 1585?
Plentyn: Robert Lougher
Rhiant: Thomas Lougher
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gŵr o'r gyfraith sifil, a gweinydd eglwysig
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cyfraith; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Arthur Herbert Dodd

Ganwyd yn Ninbych-y-pysgod, mab ieuengaf Thomas Lougher, aldramon yn y fwrdeisdref. Daeth yn gymrawd o Goleg All Souls, Rhydychen (1553), fel un yn perthyn i hil y sefydlydd, a graddiodd yn B.C.L. yn 1558 (9 Gorffennaf). Yn 1561-3 cafodd dair bywoliaeth segur yn Nyfnaint, a daeth yn archddiacon Totnes (21 Chwefror 1562). Bu yng nghonfocasiwn 1562-3 fel llefarydd ('prolocutor') dros offeiriaid Dyfnaint - yn cytuno â'r penderfyniadau yr oedd mwyafrif drostynt eithr yn pleidleisio yn erbyn y chwech erthygl Biwritanaidd a gynigid. Yn y blynyddoedd 1564-70, a thrachefn o 1575 hyd 1580, bu'n brifathro New Inn Hall, Rhydychen; yn 1565 (10 Ionawr) fe'i hetholwyd yn athro'r gyfraith sifil; cymerodd radd doethur ar 19 Chwefror a daeth yn aelod o Doctors' Commons yr un flwyddyn (25 Chwefror). Pan ymwelodd y frenhines Elisabeth â Rhydychen yn 1566 yr oedd Lougher yn un o'r doethuriaid a ddewiswyd i 'ddadlau' ger ei bron hi ar y gyfraith wladol (4 Medi). Fe'i gwnaethpwyd yn un o gymrodyr gwreiddiol Coleg Iesu yn 1571; bu'n cynrychioli bwrdeisdref Penfro yn y Senedd, 1572, ac yn 1574 daeth yn feistr yn y siansri. Ym Mai 1577 gwnaeth Edwin Sandys, archesgob Caerefrog, ef yn ficer cyffredinol a changhellor iddo'i hun - swydd a ddaliodd hyd y bu farw yn Ninbych-y-pysgod fis Mehefin 1583 (neu 1585).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.