LOWE, RICHARD (1810 - 1853), gwehydd a cherddor

Enw: Richard Lowe
Dyddiad geni: 1810
Dyddiad marw: 1853
Rhiant: Mary Lowe
Rhiant: Mathew Lowe
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwehydd a cherddor
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Llanidloes, Sir Drefaldwyn, yn 1810, mab Mathew a Mary Lowe. Gwehydd ydoedd wrth ei alwedigaeth. Dysgwyd cerddoriaeth iddo gan James a Richard Mills. Bu'n arweinydd y canu yn eglwys Llanidloes am lawer o flynyddoedd. Ceir dwy dôn o'i waith - ' Pererindod ' a ' Diwygiad ' - yn Caniadau Seion a'r Atodiad (Richard Mills). Symudodd i fyw i'r Drefnewydd ac yno y bu farw yn 1853.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.