MADOG BENFRAS (fl. c. 1320-60), bardd

Enw: Madog Benfras
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

o Farchwiail yn sir Ddinbych. Rhoddir ei achau yn Powys Fadog : ' Madog Benfras ap Gruffudd ap Iorwerth, arglwydd Sonlli, ab Einion Goch ab Ieuaf ap Llywarch ab Ieuaf ap Niniaw ap Cynfrig ap Rhiwallawn.' Yr oedd ei ddau frawd, Llywelyn Llogell (person plwyf March'wiail) ac Ednyfed, yn feirdd hefyd, a dywedir gan ' Iolo Morganwg ' mai Llywelyn ap Gwilym o Emlyn oedd eu hathro barddonol hwy ill tri. Enwa ' Iolo ' hwy ynglyn â'r olaf o'r tair eisteddfod a gynhaliwyd yn amser y brenin Edward III dywed mai Madog a enillodd y gadair a'r cae bedw yno am rieingerdd (ond nid oes unrhyw dystiolaeth arall am yr eisteddfodau hyn). Yr oedd yn gyfaill agos i Ddafydd ap Gwilym canodd y naill farwnad i'r llall, ond ni wyddys pa un ohonynt a fu farw gyntaf. Ychydig iawn o farddoniaeth Madog sydd ar gael, heblaw'r farwnad i Ddafydd; canodd rai cywyddau serch, a chywydd i'r Halaenwr. Enwir ef fel erlynydd mewn achosion yn y llysoedd yn nhref Wrecsam yn 1340.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.