MALKIN, BENJAMIN HEATH (1769 - 1842), llenor a hynafiaethydd

Enw: Benjamin Heath Malkin
Dyddiad geni: 1769
Dyddiad marw: 1842
Priod: Charlotte Malkin (née Williams)
Plentyn: Benjamin Malkin
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd (yn ôl carreg ei fedd) 23 Mawrth 1769, yn Llundain. Adroddir ei yrfa gyffredinol yn y D.N.B. : graddiodd yn y ddwy hen brifysgol (D.C.L., Rhydychen, 1810). Bu'n brifathro ysgol ramadeg Bury S. Edmund's, 1809-28, ac yn athro hanes ym Mhrifysgol Llundain yn 1830; yr oedd yn F.S.A.; cyhoeddodd amryw lyfrau. Trown at ei gyswllt â Chymru. Merch oedd ei wraig, Charlotte, i'r Parch. Thomas Williams, B.D., o Lanbleiddian, prifathro ysgol ramadeg y Bont-faen a churad eglwys y dref. Teithiodd Malkin drwy ddeheudir Cymru (1803), a chyhoeddodd, 1804, lyfr sy'n llawer mwy adnabyddus yn ei ail argraffiad (dwy gyfrol, 1807), The Scenery, Antiquities, and Biography of South Wales. Dyma'r gorau, o ddigon, o'r hen lyfrau teithio ar y deheudir; ei sylwadaeth yn graff a diddorol, ei naws ar y cyfan yn garedig, ei wybodaeth o hanes Cymru (ac i raddau, o'i llenyddiaeth) yn sylweddol. Gwnâi Malkin ei gartref, o tua 1830, yn yr 'Old Hall,' yn y Bont-faen. Ymddiddorai ym mywyd Morgannwg. Sefydlodd gymdeithas, 'The Society for the improvement of the working population in the County of Glamorgan,' ac yntau'n llywydd ac ysgrifennydd; golygodd y gyfres o 12 o'i phamffledau (rhestr yn Cardiff Catalogue, 452-3); cyhoeddodd hefyd ar wahân, 1831, ddarlith a draddododd i'r gymdeithas. Bu farw yn y Bontfaen 26 Mai 1842; y mae arysgrif goffa iddo ef a'i wraig yn yr eglwys yno. Bu ei fab, Syr BENJAMIN MALKIN (a fu farw o'i flaen, yn 1837), yn farnwr yn Calcutta; yr oedd yn gyfaill i Macaulay.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.