MALO (adnabyddir ef hefyd fel Machu, Machutes, Maclovius, ac yn Gymraeg, Mechell), sant, fl. yn y 6ed ganrif

Enw: Malo
Rhiant: Derfel
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sant
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Hywel David Emanuel

Y tebygolrwydd yw mai yn gynnar yn y 9fed ganrif yr ysgrifennwyd y llawysgrif wreiddiol o ' Fuchedd Malo Sant.' Nid yw hon ar gael heddiw. Y fersiwn agosaf ati, hyd y gellir casglu, yw honno a argraffwyd gyntaf gan Joannes a Bosco yn ei Floraciensis vetus bibliotheca, 1605, 485-515, ac wedyn mewn ffurf gywirach gan Lot (isod). Y mae'r fersiwn a argraffwyd gan Mabillon (isod) a'r ' Fuchedd ' a gyfansoddwyd gan Sigebert de Gembloux yn yr 11eg ganrif, ac a argraffwyd gan Migne (isod), yn ddigon tebyg o ran cynnwys i'r fersiwn a nodir uchod. Ond gwelir cryn dipyn o wahaniaeth rhwng y fersiynau hyn i gyd, ac eithrio'r penodau cynnar, a'r ' Fuchedd ' faith ac ansicr ei ffeithiau a gyfansoddwyd gan Bili, clerigwr o Alet, tua 870, ac a argraffwyd gan Lot (isod). Mab Derfel, chwaer i Amwn Ddu, oedd Malo - yr oedd felly yn gefnder i Samson sant. Ni sonnir am enw tad Malo. Trigai'r teulu yn ymyl Llancarfan ym Morgannwg, ac yn ôl yr hanes ganwyd Malo yn y fynachlog honno noswyl y Pasg, a bedyddiwyd ef yno gan yr abad (a gamenwir yn Brendan). Trosglwyddwyd Malo yn ieuanc iawn i ofal yr abad, a chyflawnodd wyrthiau lawer ac yntau namyn bachgen. Ni fynnai gefnu ar fywyd y fynachlog, ar waethaf ceisiadau ei rieni, ac urddwyd ef yn offeiriad gan yr abad gyda swydd pregethwr. Efallai iddo gael ei ordeinio yn esgob hefyd yn Llancarfan. Wedi rhai blynyddoedd, penderfynodd Malo ymadael â Llancarfan, a hwyliodd i Lydaw, lle y gwnaed ef yn esgob Alet. Dywedir iddo gyflawni llawer o weithredoedd nerthol yno. Bu farw mewn gwth o oedran ar daith o Alet i randir Saintonge. Enwyd nifer o eglwysi ar ei enw, yn Llydaw ac yn rhanbarthau gogleddol Ffrainc. Yng Nghymru, ef yw nawddsant eglwysi Llanfocha (St. Maughans) a Llanfaenor yn sir Fynwy a Llanfechell ym Môn. 15 Tachwedd a nodir gan amlaf fel ei ddydd gŵyl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.