Ganwyd yn 1802 (neu 1801) yn fab i David Marsden, a oedd yn cloddio mwyn gerllaw Llanbedr-Pont-Steffan. Bu yng Ngholeg Dewi Sant; urddwyd yn 1827; bu'n gurad Llan-y-crwys 1827-9, Tir-abad 1829-31, a Llan-y-crwys drachefn 1831-8. O 1838 hyd ei ymddiswyddiad yn 1840, bu'n ficer Brymbo; ac o 1843 hyd ei farw yn rheithor Llanfrothen. Bu farw 24 Hydref 1849, yn ei 48 flwydd, meddai ei faen coffa. Cyhoeddodd yn 1838 Chwech ar Hugain o Bregethau; yn 1843 gyfrol arall o 26 pregeth; ac yn 1848 gyfrol o emynau a phrydyddiaeth arall, dan y teitl The Poet's Orchard - dywedir yn honno iddo hefyd gyhoeddi llythyr yn erbyn uno esgobaethau Bangor a Llanelwy.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.