bedyddiwyd 1 Tachwedd 1790 yn eglwys S. Mair, Aberteifi, ail fab James Meadows (hen swyddog yn y llynges). Ni wyddys ddim o'i hanes hyd y flwyddyn 1823, pryd y ceir ef yn gyfrifol am rai o'r darluniau yn The Mirror of the Stage a'r lluniau ar garreg ('lithographs') yng ngwaith Planché, Costume of Shakespere's Historical Tragedy of King John. Daeth i amlygrwydd mawr gyda The Heads of the People or Portraits of the English, 1838-40, gwaith y cyfrannodd W. M. Thackeray iddo. Cyhoeddodd argraffiad darluniadol o weithiau Shakespeare, 1839-43, a bu hefyd yn gwneuthur darluniau ar gyfer rhai o rifynnau Nadolig yr Illustrated London News. Priododd ferch John Henning, cerflunydd. Yr oedd yn gyfeillgar â phrif awduron ei gyfnod. Bu farw 19 Awst 1874.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.