MEREDITH, BENJAMIN (1700 - 1749), pregethwr gyda'r Bedyddwyr

Enw: Benjamin Meredith
Dyddiad geni: 1700
Dyddiad marw: 1749
Rhiant: William Meredith
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Nansi Ceridwen Jones

Ganwyd yn 1700 yn Llanwenarth, sir Fynwy, mab i William Meredith a oedd yn aelod blaenllaw a phregethwr gyda'r Bedyddwyr yn Llanwenarth. Bedyddiwyd ef yn 17 mlwydd oed a dechreuodd bregethu yn 1720. Tua 1730 fe'i gwahoddwyd i ofalu am eglwys Ymneilltuol Llanbrynmair, ac ar ôl bod yno am beth amser fe'i hordeiniwyd yn 1733, ond cyn pen blwyddyn, sef yn 1734, gorfu iddo ymadael oherwydd ei olygiadau diwinyddol. Ef oedd y Bedyddiwr olaf i fod yn weinidog ar yr hen gynulleidfa yn Llanbrynmair, ac ymddengys ei fod yn bregethwr poblogaidd ac i'r gynulleidfa gynyddu yn ystod y tymor byr y bu ef yno. Dychwelodd i Lanwenarth ond bu ymrafael yn yr eglwys ynglŷn ag athrawiaeth y Drindod ac fe'i diarddelwyd ef a'r ychydig aelodau a goleddai ei syniadau yn 1748. Bu'n pregethu i'w ddilynwyr mewn lle yn agos i'r addoldy, ac wedi hynny, pan wanychodd ei iechyd, yn ei gartref. Cyfieithodd yn Gymraeg lyfr John Bunyan, Jerusalem Sinner Saved, fel Pechadur Jerusalem yn Gadwedig, a gyhoeddwyd yn 1721 gydag ail argraffiad yn 1765. Bu farw fis Rhagfyr 1749.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.