MILLS, SEBASTIAN BACH (1838 - 1898), pianydd

Enw: Sebastian Bach Mills
Dyddiad geni: 1838
Dyddiad marw: 1898
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pianydd
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd ym mis Mawrth 1838 yn y Coety, gerllaw Penybont-ar-Ogwr, Sir Forgannwg, yn fab i organydd. Teithiodd lawer. Yn 1878 bu gyda Joachim a Madame Schumann mewn cyngherddau yn yr Almaen. O 1883 hyd 1897 yr oedd yn athro cerddoriaeth yn Efrog Newydd. Yr oedd yn yr Almaen yn 1897-8, ac yno y bu farw ar 21 Rhagfyr 1898.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.