Ganwyd yn 1756, mab Benjamin Millingchamp, ac wyr Joseph Millingchamp, pennaeth tollfa'r Llywodraeth ('Comptroller of the Customs') yn nhref Aberteifi, a'i wraig Anne (Gambold). O ysgol Ystrad Meurig aeth i Rydychen, gan ymaelodi 12 Chwefror 1773 o Goleg y Frenhines, a symud i Goleg Merton cyn graddio yn 1777.
Ordeiniwyd ef yn ddiacon, 9 Awst 1778, gan J. Yorke, esgob Tyddewi. Ar 4 Medi 'r un flwyddyn apwyntiwyd ef yn gaplan ar y Superbe, llong y llyngesydd Syr Edward Hughes, a hwyliodd i'r India yn gynnar yn 1779. Bu allan o'r wlad am 18 mlynedd, gan dreulio'r blynyddoedd o Orffennaf 1782 ymlaen yn gaplan yn Fort St. George, Madras. Yno dechreuodd ddysgu iaith Persia, a daeth yn hyddysg ynddi; casglodd hefyd lyfrau a llawysgrifau Perseg a rhai dwyreiniol eraill (y maent yn Ll.G.C. er 1912). Gadawodd yr India yn derfynol yn 1796 a dychwelodd i Brydain.
Priododd, 1798, Sarah Rawlinson, Grantham, ac ymgartrefodd gyda'i wraig ym Mhlas Llangoedmor, gerllaw Aberteifi. Cafodd rai bywiolaethau a swyddi eglwysig yng Nghymru a Lloegr, gan ddyfod yn archddiacon Caerfyrddin yn 1825 - manylion yn NLW MS 13737C . Cymerodd radd D.D. yn Rhydychen yn 1821. Cyhoeddwyd (yng Nghaerfyrddin, 1812) A Sermon preached at St. Peter's Church, Carmarthen, on Thursday, July 4th, 1811, before the Society for Promoting Christian Knowledge and Church Union in the Diocese of St. Davids. … By the Rev. Benjamin Millingchamp.
Bu farw 6 Ionawr 1829 a chladdwyd ef yn Llangoedmor.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.