MORGAN, Syr CHARLES (1575? - 1643?), milwr

Enw: Charles Morgan
Dyddiad geni: 1575?
Dyddiad marw: 1643?
Priod: Elizabeth Morgan (née de Marnix de Sainte Aldegonde)
Plentyn: Ann Morgan (née Morgan)
Rhiant: Frances Morgan (née Leigh)
Rhiant: Edward Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: milwr
Maes gweithgaredd: Milwrol
Awdur: Arthur Herbert Dodd

pedwerydd mab Edward Morgan (1530 - 1585), Pencarn, sir Fynwy, a Frances Leigh, Llundain. Cangen iau o deulu Morganiaid Tredegar oedd ei deulu — yr oeddent wedi cael Pencarn trwy briodas hendaid Charles. Dilynodd dueddiadau milwrol ei ewythr, Syr Thomas Morgan ‘the Warrior’ (bu farw 1595) a'i frawd hŷn, Syr Mathew Morgan (a gafodd ei wneuthur yn farchog gan iarll Essex yn Rouen, 1591, ac a fu'n aelod seneddol dros Aberhonddu, 1593), a bu'n gwasnaethu yn Fflandrys, yna fel capten yng nghyrch Essex ar Cadiz, 1596, lle yr oedd ei frawd Syr Matthew yn ‘lieutenant-colonel,’ ac yn Ostend yn 1601. Yr oedd cymaint o anfodlonrwydd gwleidyddol a chymaint o Babyddion yn ei deulu ac ymhlith ei berthynasau (yn eu mysg yr oedd ei fam, ewythr, brawd, brawd-yng-nghyfraith, a llawer o ‘allies and tenants’) nes peri i rai pobl obeithio y byddai iddo arwain llu arfog yn erbyn Iago I pan ddeuai hwnnw i'r orsedd, eithr gwrthododd; ac yn wobr, gwnaethpwyd ef yn farchog (23 Gorffennaf 1603). Yna aeth yn ôl i Ostend hyd nes cwympodd y lle hwnnw i ddwylo Spinola (20 Medi 1604); daeth adref yr adeg honno ac fe'i gwnaethpwyd yn ustus heddwch. Wedi i derfysgoedd y ‘Pabyddion’ dorri (Mai 1605) yn Swydd Henffordd a De Cymru — dywedwyd fod ei frawd-yng-nghyfraith Rice ap Price yn arweinydd yn y terfysgoedd — cafodd ei garcharu yng ngharchar y Fleet am ‘neglecting his place’ a dianc i Lundain ‘in a time of such disorder,’ eithr yn ddiweddarach bu'n helpu i ddod â'r ardaloedd hynny i drefn. Pan ddaeth yr heddwch â'r Is-Ellmyn i'w derfyn yn 1620 aeth allan gyda llu gwirfoddolwyr Syr Horace Vere (hen gyd-filwr), yr oedd yn ben ar lu Prydain yn Bergen hyd 1622, a bu'n helpu i amddiffyn Breda, 1625. Y flwyddyn ddilynol, gydag arian a gafwyd yn fenthyg gan Syr Thomas Myddelton ac eraill, arweiniodd lu Prydeinig i helpu brenin Denmarc ar rannau isaf afon Elbe, ond er cael cymorth y llynges gan Syr Sackville Trevor (gweler o dan Trevor, Trevalun) a gweithredu gydag ynni a defnyddio pob math o foddion wrth geisio cadw ynghyd lu arfog nad oedd yn derbyn yr adnoddau a ddylai gael, bu raid iddo ildio Staden i Tilly yn 1628. Erbyn 1629 yr oedd yn ei ôl yn Holand eithr yn treulio'r blynyddoedd mewn ofn yn wastad rhag cael ei gymryd i'r ddalfa gan yr echwynwyr a oedd wedi darparu adnoddau i'w fyddinoedd yn ystod cyrch Staden. Bu'n cynorthwyo yng ngwarchae Breda (Awst 1637), ac yn y diwedd daeth, fel ei ewythr ‘the Warrior,’ yn llywiawdwr Bergen. Mor ddiweddar â 1642 yr oedd yn gofyn caniatâd, gartref, i gasglu dynion ynghyd i lenwi lleoedd gwag yng nghwmni un o'i gapteniaid Cymreig. Ychydig wedi hynny bu farw ‘this honest and brave captain’ (fel y'i galwyd gan iarll Essex) a chladdwyd ef yn Delft. Pan oedd ar y Cyfandir priodasai Elisabeth, merch Philip de Marnix de Ste. Aldegonde (bu farw 1598), arglwydd Belgaidd a Phrotestant, a chydweithiwr â William o Orange yng Ngwrthryfel yr Iseldiroedd. Daeth eu hunig ferch, ANN MORGAN (bu farw 1687), adref a phriododd (1), Syr Lewis Morgan, Rhiwperra, sir Fynwy (aelod seneddol dros Gaerdydd, 1628; gwnaethpwyd ef yn farchog, 1629, a bu farw 1635); (2), Walter Strickland,, aelod o ‘Council of State’ Cromwell a'r ‘Other House '; a (3) John Milborne, Wonaston, sir Fynwy. Daeth Ann yn ddinesydd Prydeinig ar 18 Chwefror 1651. Daeth i feddu tiroedd yn sir Fynwy a phriododd ei merched â theuluoedd o'r rhan honno o'r wlad. Eithr pan fu farw yn Chelsea yn 1687 gofynnodd am gael ei chladdu yn Delft.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/