Fe wnaethoch chi chwilio am henry morgan
Ganwyd 27 Mawrth 1846 yn Tyndre, Morfa Bychan, ger Porthmadog. Saer dodrefn ydoedd wrth ei alwedigaeth. Cymerodd ddiddordeb mewn cerddoriaeth yn ieuanc, meddai ar lais da, a daeth yn ddatganwr o gryn fri yn yr ardaloedd cylchynol i Borthmadog. Yr oedd hefyd yn fardd lled dda. Cyfansoddodd lawer o donau, a threfnodd alawon Cymreig i seindorf Porthmadog. Enillodd bedair gwaith ar gyfansoddi tonau yng nghymanfa ganu Annibynwyr Sir Gaernarfon. Galwodd y dôn gyntaf a gyfansoddodd yn ' Llanerch,' enw'r fferm agosaf at ei gartref. Canwyd llawer ar ei dôn ' Salem,' 8.7, ond cofir amdano'n bennaf fel cyfansoddwr y dôn ' Tyddyn Llwyn,' 8.7.4. Bu farw 1 Tachwedd 1920 a chladdwyd ef ym mynwent Ynyscynhaearn, Porthmadog.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.