Ganwyd ym Mhebidiog yn Nyfed, a'i dderbyn i Brifysgol Rhydychen 1515, gan raddio B.C.L. yn 1522 a D.C.L. yn 1525. Yn fuan wedi hynny daeth yn brifathro Neuadd S. Edward yno. Derbyniodd urddau, a daeth yn rheithor Castell Walwyn yn Nyfed; daliodd wedyn swyddi a bywiolaethau yn esgobaethau Lincoln ac Exeter. Penodwyd ef yn esgob Tyddewi gan y frenhines Mari yn 1554, a daliodd y swydd nes i Elizabeth ei dwyn oddi arno yn 1559. Ymneilltuodd i Wolvercote, ger Rhydychen, lle y bu farw 23 Rhagfyr 1559. Claddwyd ef yn Wolvercote.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.