Ceisiwyd gan lawer ddarganfod pwy oedd rhieni Henry Morgan, pob un o'r ceiswyr yn cymryd yn ganiataol ei fod yn perthyn i Forganiaid Tredegar, ond ni bu'r un cais yn foddhaol. Y mae'n weddol sicr fod y geiriau a ganlyn, sydd wedi eu cymryd o'r ' Bristol Apprentice Books (Servants to Foreign Plantations),' yn cyfeirio ato ef: ' 1655, February 9. Henry Morgan of Abergavenny, labourer, bound to Timothy Tounsend of Bristoll, cutler, for three years to serue in Barbadoes on the like Condicions.' Dyma ffurf arferol ymrwymiad pob dyn a ddymunai ymfudo i India'r Gorllewin; ystyr 'like Condicions' ydyw ei fod i gael 10 punt ar ddiwedd ei dymor o wasanaeth.
Dywedid fod Morgan tua 36 oed ar 21 Rhagfyr 1671; fe'i ganwyd ef, felly, tua'r flwyddyn 1635. Yr oedd tuag 20 oed pan ymfudodd. Yn ei History of the Buccaneers, 1684, dywed Esquemelling amdano: ' He served his time in Barbadoes, and, obtaining his liberty, he took himself to Jamaica, there to seek new fortunes.' Dywed yr awdur hwn hefyd i Morgan ddyfod ar unwaith yn fôrleidr a llwyddo mewn ystyr ariannol. Dywedid yn 1670 ei fod eisoes yn y West Indies ers 11 neu 12 mlynedd - ' bin in the West Indys 11 or 12 yeares ' ac ' by his valour ' wedi ei ddyrchafu ei hun - ' raised himself to what he now is.' Yr oedd yn ddigon cefnog erbyn y flwyddyn 1665 i allu priodi Elizabeth, merch Edward Morgan (bu farw yn 1655), Llanrhymney (Glanrhymni), sir Fynwy; gwnaethpwyd Edward Morgan, a oedd yn perthyn i Forganiaid Tredegar, yn ddirprwy-lywodraethwr Jamaica ym mis Mehefin 1664.
Yn 1666 ceir Henry Morgan â gofal llong arno o dan Edward Mansfield, môr-herwr o fri; pan fu Mansfield farw etholwyd Morgan yn ' admiral ' gan ei gydymdeithion. Cafodd gomisiynau môr-herwa gan Syr Thomas Modyford, llywodraethwr Jamaica, ac yn 1668 anrheithiodd Porto Bello gyda chreulondeb ellyll. Ei orchestwaith oedd ei ymdaith ar draws culdir Panama a chymryd meddiant o'r dref o'r un enw yn 1671. Parodd yr ymgyrch hon drafferth i Lywodraeth Lloegr, a galwyd Modyford yn ei ôl. Mabwysiadodd ei olynydd ef bolisi gwahanol; nid oedd ef yn caniatáu defnyddio môr-herwyr i amddiffyn llongau Prydain rhag yr Ysbaenwyr ac ni bu fawr o amser cyn i Morgan ddilyn Modyford i Loegr yn garcharor. Disgrifia William Morgan, Tredegar, ef y pryd hwn fel ' a relation and formerly a neer neighbour.' Enillodd ffafr y brenin Siarl II yn gynnar, ac ar 23 Ionawr 1674 fe'i gwnaethpwyd yn ddirprwy-lywodraethwr Jamaica; ymddengys iddo gael ei wneuthur yn farchog yr un pryd. Claddwyd ef yn Port Royal ar 26 Awst 1688. Yn ei ewyllys (a brofwyd 14 Medi 1688) sonia am ei chwaer, Catherine Lloyd, a ' my ever honourable cousin, Mr. Thomas Morgan of Tredegar.' Lanrumney a Pencarn oedd enwau ei stadau yn Jamaica.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.