MORGAN MWYNFAWR (fl. 730), ' Y Noddwr ' (neu MORGAN ab ATHRWYS), brenin Morgannwg

Enw: Morgan Mwynfawr
Ffugenw: Y Noddwr
Plentyn: Ithel ab Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: brenin Morgannwg
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

oddi wrth ei enw ef y cafodd hen frenhiniaeth Morgannwg, a oedd yn cynnwys Glywysing a Gwent, ei henw. Ŵyr ydoedd a dilynydd (yn ddiamau) i'r brenin Meurig ap Tewdrig, gŵr tybiedig Onbraus, ferch Gwrgant Mawr, brenin olaf Erging (de swydd Henffordd). Estynnai llywodraeth Morgan, mewn gwirionedd, dros afon Gwy i ran o Erging ac, i gyfeiriad y gorllewin, cyn belled ag afon Tywi. Dilynwyd ef gan ei fab Ithel.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.