MORGAN, PHILIP (bu farw 1435), esgob Caerwrangon (1419) ac Ely (1426)

Enw: Philip Morgan
Dyddiad marw: 1435
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Caerwrangon (1419) ac Ely (1426)
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Walter Thomas Morgan

Ceir y cyfeiriad cyntaf ato yng nghofrestrau esgobion Tyddewi, 28 Mai 1398, lle y disgrifir ef fel doethur yn y gyfraith a rheithor ' Aberedow.' Yn y Papal Letters, 17 Kal. Mehefin 1401, gwelir caniatâd iddo ef, a oedd bellach yn is-ddiacon, i ohirio ei ordeiniad fel diacon ac offeiriad am 10 mlynedd, a chawn gyfeiriad arall ato yn yr un llythyrau, 6 Kal. Mehefin 1405, lle rhoddwyd iddo, a oedd erbyn hyn yn ddoethur yn y gyfraith eglwysig a sifil, adnewyddiad o'i ganiatâd i ddal Llanfeigan ynghyd ag Aberedw. Penodwyd ef, 2 Mai 1407, yn ganon yng ngholeg (h.y. clas) Abergwili, a rhoddwyd iddo brebend Llandegle. O 1414 ymlaen anfonwyd ef yn aml ar genadaethau tramor, a chymerodd ran amlwg yn y trafodaethau i ffurfio cytundeb heddwch â Ffrainc; bu'n brif offeryn i gael adnewyddiad o'r cadoediad arbennig â Fflandrys, 1416. Gwnaed ef yn aelod o'r Cyfrin Gyngor yn 1419. Fel esgob bu'n wyliadwrus i atal drygau clerigol. Adeg Senedd Hydref 1429 anfonwyd yr achos yn erbyn abad Ystrad Fflur ato. Bu farw yn Bishop's Hatfield, swydd Herts, 25 Hydref 1435, a chladdwyd ef yng nghapel y Charterhouse yn Llundain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.