MORGAN, RICHARD (1854 - 1939), prifathro

Enw: Richard Morgan
Dyddiad geni: 1854
Dyddiad marw: 1939
Rhiant: Thomas Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prifathro
Maes gweithgaredd: Addysg; Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: Thomas Isfryn Jones

ysgol y cyngor, Llanarmon-yn-Iâl; ganwyd yn Nhalybont, Sir Aberteifi, 1854, yn fab i Thomas Morgan, crydd. Cafodd ei addysg yn yr hen Ysgol Frutanaidd yn Nhalybont ac wedi hynny yng Ngholeg Prifysgol Bangor, a bu'n athro ysgol yn Aberystwyth am beth amser cyn symud i Lanarmon. Treuliodd yn agos i 40 mlynedd o'i oes yn Llanarmon a threfnodd yno hefyd ddosbarthiadau nos llewyrchus iawn. Ei ddiddordeb pennaf oedd natur. Enillodd dair gwobr ar y pwnc yn yr eisteddfod genedlaethol, a chyhoeddodd Tro Trwy'r Wig, Llyfr Blodau, Llyfr Adar, Rhamant y Gog Lwydlas, a hefyd erthyglau yn Cymru a chylchgronau eraill a ddengys ei wybodaeth eang a'i gariad at natur. Ei ddawn at sgrifennu ar y pynciau hyn yn yr iaith Gymraeg sy'n ei hynodi. Cyflwynodd Prifysgol Cymru radd M.A. er anrhydedd iddo yn 1922 am ei gyfraniad i lenyddiaeth Gymraeg. Ymddeolodd yn 1919 a threuliodd y tair blynedd olaf o'i oes yn Nhalybont, ac yno y bu farw ym mis Medi 1939.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.