MORGAN, THOMAS (bu farw 1833), cenhadwr gyda'r Methodistiaid Wesleaidd a gweinidog

Enw: Thomas Morgan
Dyddiad marw: 1833
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr gyda'r Methodistiaid Wesleaidd a gweinidog
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Evan Lewis Evans

Ganwyd yn Aberafan, Morgannwg. Aeth i'r weinidogaeth yn 1808, a llafuriodd ynddi am 25 mlynedd, 18 ohonynt yn y maes cenhadol a saith yn Lloegr. Yn 1810 apwyntiwyd ef i ofalu am yr orsaf genhadol ar ynys Antigua, yn India'r Gorllewin. Yn 1816-7 bu'n gofalu am gylchdaith S. Vincent, a bu'n bwrw golwg dros S. Dominica am saith mlynedd. Bu'n gadeirydd ac yn arolygwr y rhanbarthau dros dymor cythryblus rhyddhau'r caethion. Meddai ddawn eithriadol fel cenhadwr, ac yr oedd iddo'r un arbenigrwydd ynglŷn â materion ariannol y gymdeithas. Â'i iechyd yn pallu, ymwelodd â Lloegr yn 1831, a bu farw yng Ngorffennaf 1833.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.