MORGAN, Syr WALTER VAUGHAN (1831 - 1916), arglwydd faer Llundain

Enw: Walter Vaughan Morgan
Dyddiad geni: 1831
Dyddiad marw: 1916
Rhiant: Elizabeth Morgan (née Vaughan)
Rhiant: Thomas Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arglwydd faer Llundain
Maes gweithgaredd: Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 3 Mai 1831, yn chweched mab i Thomas Morgan o Pipton, y Clas-ar-Ŵy (Glasbury), Brycheiniog, a'i wraig Elizabeth (Vaughan) - yr wythfed mab oedd OCTAVIUS VAUGHAN MORGAN, F.S.A. (1837 - 1896), aelod seneddol Rhyddfrydol dros Battersea, 1885-92; ar y teulu, gweler Theophilus Jones, History of the County of Brecknock (3ydd arg.), iii, 90. Yn wyneb colledion y teulu, aeth amryw o'r meibion i Lundain, a buont yn llwyddiannus dros ben. Bwriodd Walter Vaughan Morgan 10 mlynedd yng ngwasanaeth y National Provincial Bank mewn amryw leoedd (1846-56); yna ymunodd yntau â ' Morgan Bros. ' ac anturiaethau eraill ei frodyr. Bu'n arglwydd faer Llundain, 1905-6, a bu farw 12 Tachwedd 1916.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.