MORGAN, WALTER (fl. 1695), awdur

Enw: Walter Morgan
Rhiant: Thomas Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Walter Thomas Morgan

y Parson's Jewel, 1705, llyfr o gyfarwyddiadau i egluro'r drefn pan gyflwynir clerigwyr i fywiolaethau. Ar yr wyneb-ddalen disgrifir ef fel ' vicar de jure of Llhan-tri-sanct and Chaplain to the Countess Dowager of Peterborough late deceased. ' Mae'n wir iddo gael ei gyflwyno i Lantrisant, 3 Ebrill 1695, gan Francis Jones a Rachel, ei wraig, ond fe gododd ymryson yn y Siawnsri ynglŷn â'r nawddogaeth pan gyflwynodd deon a chabidwl Caerloyw ŵr o'r enw James Harries i'r fywoliaeth, a sefydlwyd y diwethaf, 7 Mehefin 1695 (Llandaff Subscription Books, iv), ac arhosodd ef yno hyd 1728. Ni wyddys yn sicr ai'r Walter Morgan hwn yw'r un a enwir gan Foster, mab Thomas Morgan o Landeilo, a ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 30 Mai 1682, yn 21 oed, neu ddyn o'r un enw a fu'n rheithor Eglwysilan, 1689-95. Efallai mai yr un ydynt.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.