MORGAN, Syr WILLIAM (bu farw 1584), milwr

Enw: William Morgan
Dyddiad marw: 1584
Priod: Elizabeth Morgan (née Judde)
Rhiant: Thomas Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: milwr
Maes gweithgaredd: Milwrol
Awdur: Emyr Gwynne Jones

mab Syr Thomas Morgan, Pencoed a Langstone, Morgannwg, a Cecilia, merch Syr George Herbert, Abertawe. Aeth i Ffrainc yn 1569 i ymladd fel gwirfoddolwr ym myddin y Protestaniaid. Bu mewn amryw ysgarmesoedd yn y wlad honno ac yn yr Iseldiroedd, a dychwelodd i Loegr mewn pryd i ymuno â iarll Essex yn ei anturiaethau yn Iwerddon. Ar gais yr iarll gwnaed ef yn farchog gan Elisabeth yn 1574, ond cymaint ydoedd ei golledion ariannol tra yn Iwerddon fel y gorfu iddo werthu ei stad yn 1577. Treuliodd gyfran helaeth o'r saith mlynedd nesaf yn ymladd â'r Gwyddelod, a bu farw yn 1584. Priododd Elisabeth, ferch Syr Andrew Judde, un o aldramoniaid dinas Llundain, ond ni fu iddynt blant.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.