Ganwyd yn 1808 yng Nghaerfyrddin eithr treuliodd y rhan fwyaf o'i oes ym mhentref Gellideg, gerllaw Merthyr Tydfil. Bu'n gweithio fel mwynwr yn Rhymni, Dowlais, a Chyfarthfa. Cafodd ei urddo'n fardd yn y Fenni yn 1837. Cystadleuai yn aml mewn eisteddfodau lleol gan ennill gwobrwyon fel bardd ac fel canwr penillion gyda'r tannau; bu hefyd yn beirniadu ar gyfansoddi miwsig ac ar ddatganu. Ymysg ei gynhyrchion gwobrwyedig yr oedd: ' Awdl Gweledigaeth Pedr ' (Merthyr, 1836), ' Cywydd o glod i Wenynen Gwent ' (Merthyr, 1837). Cyhoeddwyd detholiad o'i waith o dan y teitl Cerbyd Awen (Merthyr, 1846). Ysgrifennodd faled, ' Ple byddaf mhen can mlynedd? ' y gwerthwyd miloedd o gopïau ohoni mewn ffeiriau, tafarnau, etc. Bu farw mewn tlodi, 29 Mai 1878, a chladdwyd ef ym mynwent Cefn, gerllaw Merthyr Tydfil.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.