MORGAN, WILLIAM (1818 - 1884), gweinidog Annibynnol ac athro

Enw: William Morgan
Dyddiad geni: 1818
Dyddiad marw: 1884
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol ac athro
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd yn 1818 yn Henllan Amgoed, Sir Gaerfyrddin, o deulu cefnog a blaenllaw gyda'r achos yn Henllan. Cafodd fanteision addysg orau y cylch yn ei ieuenctid. Prentisiwyd ef yn ddilledydd, a bu wrth ei alwedigaeth yn Hwlffordd, Caerfyrddin, a Llundain. Ymgysylltodd â chymdeithasau diwygiadol yn Llundain. Dychwelodd i Gymru, dechreuodd bregethu a mynd i ysgol Ffrwd-y-fâl am flwyddyn, yna i Goleg Hackney, Llundain, am dymor byr, ac oddi yno i Brifysgol Glasgow gan fwriadu graddio yno. Pallodd ei iechyd a theithiodd yn yr Almaen a'r Yswistir. Dychwelodd a phenderfynu cymryd eglwys. Urddwyd yn Heol Undeb, Caerfyrddin, 27 Ebrill 1847. Bu gofal eglwys Blaen-y-coed arno am ysbaid. Gwahoddwyd ef i fod yn weinidog yr eglwys Annibynnol Saesneg yng Nghaerfyrddin. Etholwyd ef yn athro diwinyddiaeth yng Ngholeg Caerfyrddin 1 Ionawr 1863. Ymunodd yn ieuanc â'r ' Liberation Society,' a bu'n gefnogydd eiddgar iddi ar hyd ei oes. Daeth yn un o'r arweinwyr blaenaf yn ei gyfnod ym mudiadau addysg, cydraddoldeb, a rhyddid crefyddol a gwleidyddol. Bu farw 25 Ebrill 1884.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.