MORRIS, CALEB (1800 - 1865), gweinidog Annibynnol

Enw: Caleb Morris
Dyddiad geni: 1800
Dyddiad marw: 1865
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd 12 Awst 1800 yn Parcyd, plwyf Eglwyswen, Sir Benfro. Addysgwyd ef yn Aberteifi, ysgol ramadeg Hwlffordd, ysgol ramadeg academi Caerfyrddin (1816-9), ac academi Caerfyrddin (1819-22). Derbyniwyd yn aelod yn eglwys Penygroes, Sir Benfro, yn 14 oed; yno y dechreuodd bregethu yn ddiweddarach. Yn 1822 derbyniodd alwad o Arberth, Sir Benfro, ac ordeiniwyd ef yno 2 Ebrill 1823. Symudodd i Fetter Lane, Llundain, yn 1827. Yn 1838, gwahoddwyd ef i fod yn brifathro academi Aberhonddu, eithr ymgroesodd rhag ymgymryd â'r cyfrifoldeb. Tynnodd sylw mawr fel pregethwr poblogaidd yn Fetter Lane, a dylifai cynulliadau mawr i wrando arno. Oherwydd ysbeidiau o wendid, enciliai i Gymru am atgyfnerthiad. Er chwilio am adferiad yn yr Yswistir a'r Almaen, trethwyd nerth ei ysbryd a'i gorff, ac ymddeolodd a dychwelyd i'w hen gynefin ym Mhenfro lle y bu farw 26 Gorffennaf 1865. Meddai ar ddoniau eithriadol fel pregethwr, a dringodd ar waethaf ei nychdod i fod yn un o oleuadau disglair y pulpud yn Llundain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.