MORRIS, Syr DANIEL (1844 - 1933), llysieuegwr

Enw: Daniel Morris
Dyddiad geni: 1844
Dyddiad marw: 1933
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llysieuegwr
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yng Nghasllwchwr 26 Mai 1844; bu mewn ysgol yn Cheltenham ac wedyn yn y Royal College of Science (South Kensington) ac yng Ngholeg y Drindod yn Nulyn, lle y graddiodd yn y dosbarth blaenaf mewn gwyddoniaeth - cafodd wedyn radd D.Sc. yno. Wedi bwrw rhai blynyddoedd mewn gerddi botanegol yn Ceylon a Jamaica, penodwyd ef yn 1886 yn is-gyfarwyddwr Gerddi Kew. Anfonwyd ef droeon i ynysoedd India'r Gorllewin ar ymofyniadau arbennig; yno gwnaeth waith nodedig i wella ansawdd y cotwm a'r siwgr a dyfid yn yr ynysoedd. Urddwyd ef yn farchog yn 1903. Bu farw 9 Chwefror 1933.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.