Ganwyd yn 1853 yn y Goppa Fach (Pontarddulais), ond tua'r 14 oed symudodd i Lanelli, lle y dechreuodd bregethu. Wedi bod yng Ngholeg Trefeca, bu'n gweinidogaethu yn Llansawel a Rhydcymerau (1881-92), Penygraig, Rhondda (1892-1907), a Llansteffan (1907-14). Bu farw 8 Tachwedd 1914 yn 61 oed, a chladdwyd yn Nhrealaw. Ymddiddorai yn hanes ei enwad yn Sir Gaerfyrddin, a chyhoeddodd bedwar o lyfrau arno: Cofiant Dafi Dafis, Rhydcymerau, 1897; Cofiant Thomas Job, Conwyl, 1899; Efengylwyr Seion, 1905 (ysgrifau bywgraffyddol); a Hanes Methodistiaeth Sir Gaerfyrddin, 1911. Prin bod y rhain yn fanwl feirniadol, eto y maent yn ddiddorol ac yn wir ddefnyddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.