MORRIS, ROBERT PRYS (1831? - 1890), hanesydd a hynafiaethydd adnabyddus yn ei ddydd fel ysgrifennwr ar bynciau Cymreig

Enw: Robert Prys Morris
Dyddiad geni: 1831?
Dyddiad marw: 1890
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd a hynafiaethydd adnabyddus yn ei ddydd fel ysgrifennwr ar bynciau Cymreig
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Llewelyn Davies

(gweler e.e. erthygl ganddo yn Y Traethodydd, xliv ('Crybwyllion henafiaethol') ac fel pleidiwr dirwest. Fe'i coffeir heddiw ar gyfrif ei lyfr, Cantref Meirionydd, a gyhoeddwyd yn Nolgellau (lle yr oedd yr awdur yn byw) yn 1890, ychydig wythnosau wedi iddo ef farw yno ar y dydd cyntaf o Fawrth. Er bod y gyfrol i raddau yn anwyddonol yn ôl safonau heddiw, y mae'n waith chwilotwr diwyd a gasglodd ei ddefnyddiau o nifer mawr o ffynonellau ac, oblegid hynny, y mae'r llyfr yn parhau'n ddefnyddiol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.