Ganwyd yn Heol yr Eglwys, Cilgerran, Sir Benfro, yn 1783; mab Thomas a Margaret Morris.
Yr oedd THOMAS MORRIS (1761 - 1831) yn arolygwr y seiat a gedwid yn ei dŷ a dechreuodd gynghori tua'r canol oed. Pregethai yn siroedd Dyfed a dilynai'r grefft o grydd gwlad. Bu farw 17 Hydref 1831.
Crydd oedd y mab yntau; ymunodd â'r seiat yn ieuanc a dechreuodd bregethu c. 1801. Cododd drwydded fel pregethwr Ymneilltuol yn 1812 ac ordeiniwyd ef yn sasiwn Llangeitho, 1815. Fel William Morris, ' Minister of the Gospel ', Clydau, y disgrifir ef yn ei ymrwymiad priodas â Lettice Morris, Llansteffan, 22 Awst 1822. Symudodd i Dyddewi c. 1835-6; bu farw yno 8 Rhagfyr 1861, a'i gladdu ym mynwent yr eglwys gadeiriol. Teithiodd lawer drwy Gymru gyfan a mawrygid ef gan ei gyfoeswyr fel pregethwr golau a gwresog. Cyhoeddwyd cyfrol drwchus o'i bregethau yn 1873 o dan olygiaeth George Williams.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.