Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd 9 Hydref 1823 yn Llansteffan, Sir Gaerfyrddin. Magwyd ef yn Llanelli a'i brentisio'n grydd. Er bod ei dad, William Morris, yn bregethwr Methodist, mynnodd 'Marmora' gael ei fedyddio (1845) yng Nghwmafon. Aeth i Goleg Hwlffordd yn 1847. Ordeiniwyd ef yn Bond Street, Lerpwl, 10 Tachwedd 1850. Ymhen chwech wythnos aeth i Gasmael a Beulah. Bu wedyn yn y Berthlwyd, Cwmtwrch, ac Ystradgynlais, Cwmsarnddu, Hafod (Abertawe), lle'r adeiladodd gapel Philadelphia, Pontestyll, a Phontsenni, Scranton (U.D.A.), Cwmsarnddu am yr eiltro, a Tylorville (U.D.A.) 1879-86. Treuliodd weddill ei oes yn Abertawe. Un lled od ydoedd yn ei gwmni. Gweddïai â'i lygaid ar agor, a phregethai weithiau â'i lygaid yng nghau. Ysgrifennai i'r cylchgronau (e.e. Seren Gomer, Y Bedyddiwr, a Baner America) o ddyddiau ei goleg hyd y diwedd ymron, a chipiodd wobrau lawer am draethodau. Cyhoeddodd Blynyddoedd Boreuol Moses, 1851; Maesydd y Myfyriwr ; Bwrdd y Babell, 1870; Rhiniog y Cysegr; Tir Emanuel; Athrofa Iachawdwriaeth. Bu farw 12 Medi 1914.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.