Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd 12 Medi 1843 yn Treboeth, Abertawe; mab David Morris. Dechreuodd ddysgu crefft peiriannydd. Cafodd ei addysg yn academïau Abertawe (G. P. Evans) a Phontypŵl. Ordeiniwyd ef yn Nhreorci. Bu'n ysgrifennydd Undeb Bedyddwyr Cymru a Mynwy (1879-98) ac yn llywydd ei gymanfa a'r undeb. Yr oedd yn hyrwyddwr mudiadau dyngarol, dirwestol, ac addysgol yng Nghwm Rhondda; darlithiai lawer, ac yr oedd yn flaenllaw fel gwleidyddwr. Cychwynnodd bump o achosion newydd. Ysgrifennai'n fynych i gylchgronau : Y Bedyddiwr Cymreig, Y Ffenestr, Yr Ymwelydd Misol, Yr Herald Cenhadol, etc. Cyhoeddodd Esboniad or Epistolau Iago a Titus, a gweithiau eraill. Bu farw 21 Rhagfyr 1922.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.