Ganwyd yn 1742 ym Merthyr Tydfil. Ni chafodd fwy na saith mis o ysgol pan yn blentyn gan iddo orfod ennill ei fywoliaeth pan yn ifanc iawn. Ymdrechodd yn galed i'w ddisgyblu ei hun yn y grefft o sgrifennu barddoniaeth a hyn yn wyneb anawsterau mawr. Ni fu'n berchen ar ramadeg na geirlyfr Cymraeg hyd yn ddiweddar iawn yn ei oes, ond gymaint oedd ei gariad at y Gymraeg, ynghyd â'i allu naturiol, nes iddo lwyddo, yn y diwedd, i gyfansoddi nifer o benillion canmoladwy ar wahanol destunau. Yn 1808 cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o ganeuon, ac yn 1824, ychydig cyn ei farw, ymddangosodd yr ail argraffiad yn dwyn y teitl Caingc y Gog; neu amryw gyfansoddiadau ar wahanol destunau yn cynnwys cynghorion, myfyrdodau, galarnadau, annerchiadau (J. James, Merthyr Tydfil). Bu farw 27 Tachwedd 1824 ym Merthyr Tydfil.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.