MOSTYN (TEULU), Talacre, Sir y Fflint.

Y mae Mostyniaid Talacre yn disgyn o Peter (Peyrs, Piers), mab Richard ap Howel a'i wraig Catherine, merch Thomas Salusbury, yr hynaf, Llewenni - am Peter a Richard ap Howel gweler yr erthygl ar deulu Mostyn, Mostyn. Crewyd y farwnigiaeth yn y teulu hwn yn 1670, sef pan wnaethpwyd EDWARD MOSTYN yn farwnig, ac erbyn heddiw y mae rhif y barwnigiaid yn 12. Aelod o'r teulu hwn oedd FRANCIS EDWARD MOSTYN (1860 - 1939), pedwerydd mab yr 8fed barwnig. Daeth ef yn ' Vicar Apostolic of Wales ' yn 1895; gwnaethpwyd ef yn esgob ' Menevia ' yn 1898; a bu'n archesgob Caerdydd o 1921 hyd y bu farw ar 25 Hydref 1939.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.