Cywiriadau

NASH, JOHN (1752 - 1835), pensaer

Enw: John Nash
Dyddiad geni: 1752
Dyddiad marw: 1835
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pensaer
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Thomas Mardy Rees

Ganwyd yn Aberteifi. Prentisiwyd ef gyda Syr Robert Taylor; wedi hynny ymsefydlodd yn ymyl Caerfyrddin. Perswadiwyd ef gan nifer o gyfeillion i ddechrau busnes fel pensaer; gwnaeth hynny ac yn fuan iawn daeth yn enwog. Efe a gynlluniodd garchardy'r sir yn nhref Aberteifi, ynghyd â ffrynt orllewinol a chabidyldy eglwys gadeiriol Tyddewi. Symudodd i Lundain a daeth yn fydenwog ar gyfer ei greadigaethau gorchestol megis Regent's Park a'r rhesi tai yn y gymdogaeth, Regent Street, a'r Marble Arch. Yr oedd yn noddwr hael i artistiaid. Bu farw 13 Mai 1835 yn East Cowes.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

NASH, JOHN

Yn ôl Syr John Summerson, ceidwad Amgueddfa Soane, ac awdur John Nash, Architect to King George IV (1935), yn Llundain y ganwyd ef - ei dad yn saer melinau yn Lambeth. Hawliai ei fod yn Gymro o waed, ond yn perthyn i'r tylwyth o'r enw Nash yn sir Caerwrangon.

    Dyddiad cyhoeddi: 1970

    Cywiriadau

    Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

    Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.