NICHOLLS, JOHN (1555 - 1584?), diwinydd dadleugar

Enw: John Nicholls
Dyddiad geni: 1555
Dyddiad marw: 1584?
Rhiant: John Nicholls
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwinydd dadleugar
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Henry John Randall

Yr unig gysylltiad rhyngddo a Chymru oedd ei eni yn y Bont-faen, yn fab i un John Nicholls. Aeth i White Hall (Coleg Iesu wedi hynny), Rhydychen, symudodd oddi yno i Goleg Brasenose, a gadawodd heb raddio. Wedi gadael y brifysgol dychwelodd adref, a bu'n diwtor cyn iddo gael curadiaeth yn Withycombe, Gwlad yr Haf. Treuliodd weddill ei oes fer mewn rhan ar y Cyfandir ac mewn rhan yn Lloegr, gan fod ar brydiau yn Babydd ac ar brydiau yn Brotestant, a chyhoeddi gweithiau dadleugar - gweler y teitlau yn D.N.B. - yn ôl fel y credai fel crefyddwr ar y pryd. Diweddodd gan ddyfod yn Babydd, ond nid ymddengys fod iddo argyhoeddiadau cryfion o gwbl. Y mae'n debyg iddo farw yn 1583 neu 1584 - ' in great misery.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.