Pedwerydd plentyn John a Sarah Oliver. Ganwyd 7 Tachwedd 1838 yn White Hall, Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin, a bedyddiwyd ar y 18fed o'r un mis. Derbyniodd ei addysg fore yn ysgol y pentref (1843-50) ac mewn ysgol yng Nghaerfyrddin (1850-3), ac wedyn penderfynodd ymbaratoi ar gyfer y weinidogaeth Annibynnol. Ar ôl bod o 1853 hyd 1859 yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin, lle yr astudiodd lenyddiaeth Saesneg ac Almaeneg yn arbennig, gorfodwyd ef gan afiechyd i roi heibio ei fwriad i fynd yn fyfyriwr i Brifysgol Glasgow. Gwaethygodd ei iechyd wedi hyn. Pregethai weithiau; cyfansoddodd farddoniaeth yn Gymraeg gan mwyaf; ac addysgodd nifer bychan o efrydwyr yn breifat. Bu farw 24 Mehefin 1866, a chladdwyd ar 28 Mehefin ym mynwent Llanfynydd. Casglodd ei frawd, y Parch. Henry Oliver, ei weithiau at ei gilydd, a chyhoeddodd hwynt yn 1867 o dan y teitl Cerddi Cystudd. Ystyrir ' Dafydd, Tywysog yr Arglwydd ' a ' Myfyrdod ' ymhlith y darnau gorau o'i eiddo.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.