Ganwyd ym Manceinion 16 Awst 1798, mab William Ollivant o Fanceinion ac Elizabeth ei wraig. Cafodd ei addysg yn ysgol S. Paul, Llundain, a Choleg y Drindod, Caergrawnt, a bu iddo yrfa academig ddisglair. Bu'n gymrawd o'i goleg; graddiodd yn M.A. yn 1824 ac yn B.D. a D.D. yn 1836. Yn 1827 penodwyd ef yn is-brifathro Coleg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan, a bu yno hyd 1843.
Am y chwe blynedd nesaf bu'n athro brenhinol mewn diwinyddiaeth yng Nghaergrawnt, nes ei benodi'n esgob Llandaf yn 1849. Daliodd y swydd hon hyd ei farwolaeth yn Llandaf, 16 Rhagfyr 1882, a chladdwyd ym mynwent yr eglwys gadeiriol. Ollivant oedd esgob cyntaf Llandaf ers hir amser i drigiannu yn ei esgobaeth; parodd atgyweirio'r eglwys gadeiriol, adeiladu 170 o eglwysi neu eu hailadeiladu, a gwella 70 o dai'r personiaid yn yr esgobaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.