OWEN, DAVID ('Dafydd y Garreg Wen '; 1711 - 1741), telynor

Enw: David Owen
Ffugenw: Dafydd Y Garreg Wen
Dyddiad geni: 1711
Dyddiad marw: 1741
Rhiant: Gwen Humphreys (née Roberts)
Rhiant: Owen Humphreys
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: telynor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Bedyddiwyd 27 Ionawr 1711 (cofnod yn Llyfrgell Coleg y Gogledd), mab Owen Humphreys, Ynyscynhaearn, Sir Gaernarfon, a Gwen (Roberts), Isallt Fawr, Llanfihangel-y-pennant (Eifionydd) - gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 353. Fe'i dygwyd i fyny'n delynor, ac y mae llawer o draddodiadau amdano; priodolir iddo'r alawon ' Dafydd y Garreg Wen,' ' Codiad yr Ehedydd,' a ' Difyrrwch Gwyr Cricieth.' Bu farw ar 2 Awst 1741, a chladdwyd ef ym mynwent Ynyscynhaearn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.