OWEN, DAVID (bu farw 1765), gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn y Felinfoel

Enw: David Owen
Dyddiad marw: 1765
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Benjamin George Owens

Daeth yn weinidog ei fam-eglwys ar achlysur ymweliad y gymanfa yn 1735, er y tybir ei alw i bregethu a'i ordeinio tua 10 mlynedd ynghynt, a galwyd ef yr un pryd i gynorthwyo'r eglwys wag yn Abertawe. Bu ei weinidogaeth yn llewyrchus dros ben, a chafodd yr anrhydedd o bregethu yn y gymanfa yn 1741 a 1758. Y mae ganddo emynau yn Llyfr o Emynau (Caerfyrddin, 1740).

Bu farw 19 Ionawr 1765 yn 72 oed, a'i gladdu ar bwys y capel.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.