OWEN, FOULKE (fl. 1686), bardd

Enw: Foulke Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David Jenkins

brodor o Nantglyn, sir Ddinbych. Nid oes dystiolaeth ym mha le y cafodd ei addysg er ei bod yn bosibl iddo fod yn Rhydychen, os oedd yn perthyn (gallasai fod yn ŵyr) i'r Foulk Owen hwnnw o sir Ddinbych a raddiodd yno yn 1584. Bu'n berchen ' Llyfr Du Basing,' llawysgrif bwysig o'r 14eg a'r 15fed ganrif a gedwir yn awr yn Ll.G.C. (NLW MS 7006D ), fel y tystiodd ef ei hun wrth dorri'i enw deirgwaith gyda'r dyddiad ' 1686 ' ar y dail cyntaf. Ni chadwyd nemor ddim o'i farddoniaeth, onid ei waith ef yw'r cerddi di-enw a argraffwyd yn Cerddlyfr, yr hwn sydd yn cynnwys amryw garolau a dyrifiau o waith amryw awdwyr, a gyhoeddwyd ganddo, ac a argraffwyd yn y Theatr, Rhydychen, 1686. Copi anghyflawn yn unig y gwyddys i sicrwydd ei gadw hyd heddiw, ac y mae hwnnw yn Ll.G.C.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.