Ganwyd 15 Ionawr 1832 ym Motwnnog, Sir Gaernarfon, mab Richard a Mary Owen. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Botwnnog. Crydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac ymsefydlodd yn Nhalysarn, Dyffryn Nantlle, i ddilyn ei alwedigaeth. Wedi priodi aeth i fyw i Pen-yr-yrfa, ac wedi hynny i Brynycoed. Mynychai yr Eglwys, ond oherwydd ei ddawn gerddorol penodwyd ef yn arweinydd canu yng nghapel Methodistiaid Calfinaidd Talsarn, a bu yn y swydd am dros 40 mlynedd. Sefydlodd y ' Talysarn Glee Society,' a fu'n cynnal cyngherddau hyd a lled Gogledd Cymru. Cymerodd ran mewn sefydlu gŵyl gerddorol Eryri, 1866, a chymerai ei gôr ran ynddi'n flynyddol. Yr oedd yn ddatganwr o fri, a gelwid am ei wasanaeth i feirniadu ac arwain. Cyfansoddodd lawer o donau ac enillodd yn eisteddfod Porthmadog (1871) am gyfansoddi'r gân, ' Deigryn ar Fedd Mam,' a fu'n boblogaidd am gyfnod hir. Bu farw 4 Mehefin 1897 a chladdwyd ym mynwent Salem, Llanllyfni.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.