Ganwyd 1 Hydref 1891 yn Nhrefforest, Sir Forgannwg, yn ferch i William a Sarah Jane Owen. Roedd ei rhieni'n gerddorol - ei mam yn gantores a phianydd o allu uwch na'r cyffredin. Cafodd ei haddysg yn ysgol ganolradd Pontypridd a Choleg y Brifysgol, Caerdydd, lle yr oedd yn dal ysgoloriaeth gerddorol 'Caradog,' 1909-12, ac y graddiodd yn Mus. Bac. yn 1912; cafodd yrfa ddisglair yn y Royal Academy of Music, 1912-7; daliai ysgoloriaeth Goring Thomas, 1913-7, a dyfarnwyd iddi amryw o brif wobrau a medalau yr academi.
Yr oedd Morfydd Owen yn gerddor amryddawn a llawn o deimlad; yr oedd ganddi ddawn arbennig fel cyfansoddwr. Ymysg ei chyfansoddiadau y mae gweithiau i gerddorfau mawr a bach, i gorau, unawdau piano, caneuon (ynghyd â threfniadau alawon gwerin) - ac y mae i'r rhai hyn i gyd wreiddioldeb trawiadol, techneg perffaith, ac ansawdd arbennig yn perthyn iddynt. Y mae llawer o'i cherddoriaeth yn tarddu o ymdeimlad personol a chenedlaethol a symbylwyd gan lenyddiaeth a llên gwerin ei phobl. Y mae tair o'i chaneuon - ' To our Lady of Sorrows,' ' Slumber Song of the Madonna,' a ' Gweddi Pechadur ' - yn enghreifftiau ardderchog o'i hathrylith; y mae'r tair, a'r dôn gynulleidfaol ' William,' wedi ennill eu plwyf yng Nghymru.
Priododd Chwefror 1917 â'r seicolegydd Ernest Jones (bu farw 1958). Bu ei marw, 7 Medi 1918, yn yr oedran cynnar o 26, yn golled drom i gerddoriaeth Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.